Mae amrhyw o ffyrdd y gallwch gymryd rhan a helpu yn Yr Ardd Grog.
Gwirfoddoli
Rydym yn cynnal sesiynnau gwirfoddoli yn wythnosol ar ddydd Gwener 2.00-4.00y.h. Mae'r sesiynnau yn gyfle i chi ddysgu sgiliau newydd, dysgu mwy am ein prosiect, gweithio gyda'ch cymdogion dros baned a sgwrs. Ar gyfer rhai ohonoch sydd eisiau rôl gwirfoddoli mwy parhaol gallwn deilwra swydd sydd yn eich gweddu chi. Mae gwaith gwirfoddoli yn cynnwys gweithio yn y caffi, yr ardd a gwaith adeiladu atgweiriol. Rydym angen gwirfoddolwyr all roi cyngor i ni, rhoi cymorth gyda busnes, cynllunio strategol a chyfreithiol, rheoli prosiectau bychain, ysgrifennu bidaiu codi arian, gweithredu gweithgareddau, rhwydweithio, addysgu, cadw gwenyn, coginio, helpu yn y caffi, chwarae cerddoriaeth – mewn gwirionedd, byddai unrhywbeth y gallwch gynnig fod yn ddefnyddiol i ni!
Mae'r gefnogaeth rydym yn ei dderbyn gan wirfoddolwyr yn amhrisiadwy i ni. Rydym yn cynnig hyfforddiant: Hylendid Bwyd Lefel 2, Iechyd a Diogelwch yn y gwaith, Cymorth Cyntaf a hyfforddiant garddio.
Rydym yn croesawu pawb i ymuno â ni er mwyn rhannu eu profiadau, sgiliau a gwybodaeth. Os oes gennych chi sgiliau fyddai o help i'n prosiect dewch heibio am sgwrs gydag aelod o'n tîm, neu ebostiwch joseph@thehanginggardens.org
Codi arian a rhoi rhodd ariannol
Mae Yr Ardd Grog yn ardal cymunedol sy'n cael ei redeg gan The Wilderness Trust. Rydym yn dibynnu ar gyllid parhaol er mwyn bwrw 'mlaen gyda'r gwaith atgyweirio mae'r prosiect ei angen.
Rydym yn croesawu unrhyw gymorth ariannol gallwn ei gael. Os oes gennych unrhyw syniadau ar gyfer codi arian byddem yn hapus gweithio gyda chi er mwyn gwireddu'r nôd.
Swyddi sy' ar gael
Mae ein tîm bychan yn ddibynnol ar gyllid allanol er mwyn gallu tyfu – er mwyn sicrhau bod y prosiect yn symud ymlaen rydym yn penodi amser yn gyson er mwyn ymgeisiao am fwy o gyllid. Mae hyn yn golygu, o bosib, y byddwn yn hysbysebu mwy o swyddi yn y dyfodol. Sieciwch yma er mwyn darganfod os fydd hi'n bosib i chi ymuno â'n tîm!